Ein Pobl

Cartref > Ein Pobl

Wyn Trefor Jones - Partner

Daw Wyn yn wreiddiol o Borthmadog ond bellach mae'n byw ym Mhwllheli.

Wyn yw'r uwch bartner yn y cwmni ac mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad.

Mae Wyn yn arbenigo mewn materion llys, trawsgludo eiddo preswyl /masnachol a materion priodasol. Mae Wyn hefyd yn derbyn gwaith troseddol a ariennir yn breifat a gwaith cleientiaid preifat.

Enillodd Wyn ei radd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth ac astudiodd y Cwrs Ymarfer y Gyfraith yng Ngholeg y Gyfraith, Gaer. Dechreuodd ei gytundeb hyfforddi gyda'r cwmni, cyn dod yn bartner yn 1996.

Mae diddordebau Wyn yn cynnwys seiclo a rygbi. Yn ddiweddar cymerodd Wyn ran mewn digwyddiad elusennol yn seiclo o Gaerdydd i Gaeredin. Mae hefyd yn gyn-gapten tîm Rygbi Caernarfon.


lndeg Wyn - Partner

Daw lndeg o Bwllheli, ac mae'n gyfreithiwr profiadol, ar ôl bod yn bartner yn y cwmni am 13 mlynedd.

Enillodd lndeg ei Gradd yn y Gyfraith yn Ysgol Economeg Llundain (LSE), cyn astudio'r Cwrs Ymarfer y Gyfraith gyda BPP Law yn Lludain. Cafodd lndeg gytundeb hyfforddi yn y cwmni cyn dod yn Bartner yn 2010.

Mae lndeg yn arbenigo mewn Eiddo Preswyl/Masnachol ac mae'n delio â phob agwedd ar waith Cleient Preifat.

Mae diddordebau lndeg yn cynnwys dringo creigiau a chadw'n heini. Mae hi yn gwirfoddoli ei hamser hefyd gyda phrosiectau cymunedol.


Siôn Wyn Blake - Partner

Un o Gwmllinau ger Machynlleth yw Siôn yn wreiddiol. Enillodd ei Radd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn mynd ymlaen i astudio'r Cwrs Ymarfer y Gyfraith. Yn dilyn hynny, cafodd gytundeb hyfforddi yn y cwmni yn 2010 cyn dod yn Bartner yn 2016.

Mae Siôn yn arbenigo mewn gwaith Eiddo Preswyl/Masnachol, Prydlesi, Ewyllysiau, Profiant, Atwrneiaeth Arhosol, Materion Priodasol a gwaith Cymdeithasau Tai.

Yn ei amser hamdden, mae Siôn yn mwynhau chwarae golff.


Beth Morgan - Partner

Mae Beth yn un o'r ardal. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Syr Hugh Owen Caernarfon cyn mynd ymlaen i astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd a chwblhau'r Cwrs Ymarfer y Gyfraith yng Nghaer. Wedi hynny cafodd Beth gytundeb hyfforddi yn y cwmni yn 2011, cyn dod yn Bartner yn 2016.

Mae Beth yn arbenigo mewn Trawsgludo Eiddo Preswyl/Masnachol, Prydlesi, ac yn ymdrin â phob agwedd ar waith Cleient Preifat gan gynnwys Atwrneiaeth Arhosol, Ceisiadau i'r Llys Gwarchod, Ewyllysiau a Phrofiant.

Mae gan Beth dri mab ifanc sy’n ei chadw’n brysur yn ei hamser hamdden.


Lowri Ceiriog - Partner

Mae Lowri wedi ei magu a'i haddysgu yn yr ardal. Cafodd Radd Anrhydedd ar y cyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio'r Gyfraith a'r Gymraeg. Aeth ymlaen wedyn i astudio'r Cwrs Ymarfer y Gyfraith yng Nghaer cyn dod yn baragyfreithiwr yn y cwmni yn 2017. Wedi hynny cafodd Lowri gytundeb hyfforddi yn y cwmni gan gymhwyso fel cyfreithiwr llawn yn 2020. Daeth Lowri yn Gyfreithiwr Cyswllt yn fuan wedi hynny.

Mae Lowri yn arbenigo mewn Trawsgludo Eiddo Preswyl/Masnachol, Ewyllysiau, Profiant ac Atwrneiaeth Arhosol. Mae hefyd yn derbyn cyfarwyddiadau mewn rhai meysydd Adennill Dyledion, Landlord a Thenant, ac Anafiadau Personol.

Mae diddordebau Lowri yn cynnwys cadw'n heini a phobi.

Daeth Lowri yn Bartner ym mis Ebrill 2026.


Owain Roberts – Rheolwr Practis

Daw Owain o Lanrwst. Enillodd Radd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn 2015, ac wedyn gradd Meistr mewn Eiddo Deallusol yn 2016. Daeth Owain yn deipydd yn y cwmni yn 2019 cyn sicrhau swydd fel Paragyfreithiwr yn 2021. Yn 2025 penodwyd Owain yn Rheolwr Practis y Cwmni a bydd yn goruchwylio materion dydd i ddydd y Cwmni.  

Mae diddordebau Owain yn cynnwys gwylio pêl-droed ac mae’n gefnogwr brwd o C.P.D Dinas Abertawe. Mae Owain hefyd yn mwynhau gwylio ei neioedd yn chwarae pêl-droed a criced.