Amdanom Ni
Cartref > Amdanom Ni
Sefydlwyd y cwmni yn 1999 pan unodd dau gwmni hirsefydlog o Gaernarfon, Pritchard Jones & Co. a Jones Evans Lane, i ffurfio Pritchard Jones Evans Lane.
Roedd Wyn Trefor Jones yn bartner yn Jones Evans Lane er 1996 a daeth lndeg Wyn yn bartner yn y cwmni newydd yn 2010. Daeth y cwmni yn gwmni pedwar partner yn 2016 pan ymunodd Beth Morgan a Siôn Wyn Blake. Dyna pryd y cafodd y cwmni ei droi'n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sef Pritchard Jones Lane LLP.
Mae'r pedwar partner yn y cwmni wedi cwblhau eu contractau hyfforddi yn y cwmni ac nid oes yr un ohonynt wedi gweithio mewn cwmni arall.
Mae'r cwmni'n cynnwys cyfreithwyr ac enillwyr ffioedd profiadol ar bob lefel sy’n gallu cynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog mewn modd cyfeillgar a phragmataidd.
Mae Pritchard Jones Lane LLP yn falch o'i enw da wrth ddelio a chleientiaid ac eraill mewn modd effeithiol a di-lol.