Polisi Iechyd a Diogelwch

Cartref > Polisïau > Polisi Iechyd a Diogelwch

1. Ynglyn a'r polisi hwn ar gyfer staff

1.1 Mae'r polisi hwn yn nodi ein trefniadau ar gyfer sicrhau ein bod yn bodloni ein rhwymedigaethau iechyd a diogelwch i staff ac unrhyw un sy'n ymweld â'n safle neu'n cael ei effeithio arno gan ein gwaith. 

1.2 Siôn Wyn Blake sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros iechyd a diogelwch a gweithrediad y polisi hwn. 

1.3 Nid yw'r polisi hwn yn ffurfio rhan o gontract cyflogaeth unrhyw weithiwr a gallwn ei ddiwygio ar unrhyw adeg. Byddwn yn parhau i adolygu'r polisi hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion. 

2. Eich Cyfrifoldebau fel staff

2.1 Mae'r holl staff rhannu'r cyfrifoldeb dros gyflawni amodau gwaith diogel. Dylai pawb ofalu am iechyd a diogelwch ei hun ac eraill. Dylid dilyn y rheolau diogelwch perthnasol a dilyn cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio offer yn ddiogel. 

2.2 Dylech roi gwybod am unrhyw bryderon iechyd â diogelwch ar unwaith i unrhyw un o'r partneriaid. 

2.3 Mae gofyn cydweithredu â rheolwyr ar faterion iechyd a diogelwch, gan gynnwys ymchwilio i unrhyw ddigwyddiad. 

2.4 Gellir trin methiant i gydymffurfio â'r polisi hwn fel camymddwyn a delio ag ef o dan ein Gweithdrefn Ddisgyblu. 

3. Gwybodaeth ac Ymgynghori

3.1 Byddwn yn rhoi gwybod ac yn ymgynghori â phob un o'r staff ar faterion iechyd a diogelwch. 

4. Hyfforddiant

4.1 Byddwn yn sicrhau bod hyfforddiant a goruchwyliaeth ddigonol i gyflawni gwaith yn fedrus ac yn ddiogel. 

4.2 Bydd staff yn cael sesiwn sefydlu iechyd a diogelwch ac yn cael hyfforddiant diogelwch priodol. 

5. Offer

5.1 Mae'n rhaid defnyddio offer yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir, Rhaid rhoi gwybod i rheolwr llinell ar unwaith am unrhyw nam ar offer neu ddifrod i offer. Ni ddylai neb geisio trwsio offer oni bai ei fod wedi ei hyfforddi i wneud hynny. 

6. Damweiniau

6.1 Mae manylion cyfleusterau cymorth cyntaf ac enwau swyddogion cymorth cyntaf hyfforddedig yn cael eu harddangos ar y hysbysfyrddau. 

6.2 Dylid adrodd am bob damwain ac anaf yn y gwaith, waeth pa mor fach, i Siôn Wyn Blake a'u cofnodi yn y Llyfr Damweiniau sy'n cael ein gadw yn ein swyddfa. 

7. Diogelwch Tân

7.1 Dylai'r holl staff ymgyfarwyddo â'r cyfarwyddiadau diogelwch tân, sy'n cael eu harddangos ar hysbysfyrddau ac allanfeydd yn y gweithle. 

7.2 Dylai pawb sy'n clywed larwm dân, adael yr adeilad yn syth drwy'r allanfa dân agosaf gan fynd i'r safle tân dynodedig (a ddangosir ar yr hysbysiadau diogelwch tân). 

7.3 Bydd ymarferion tân yn cael eu cynnal o leiaf bob 12 mis ac mae'n rhaid eu cymryd o ddifrif. Rydym hefyd yn cynnal asesiadau risg tân rheolaidd a gwiriadau rheolaidd o ddiffoddwyr tân, larymau tân, llwybrau dianc a goleuadau argyfwng. 

8. Asesiadau Risg a mesurau i reoli risg

8.1 Bydd asesiadau risg cyffredinol yn y gweithle o bryd i'w gilydd. Y diben yw asesu'r risg i iechyd a diogelwch gweithwyr, ymwelwyr ac unrhyw drydydd parti yr effeithid arno gan y gweithgareddau, a nodi unrhyw fesurau y mae angen eu cymryd i reoli'r risgiau hynny.