Trawsgludo Eiddo
Cartref > Gwasanaethau > Trawsgludo Eiddo
Mae pob cyfreithiwr y cwmni yn brofiadol iawn wrth ddelio â gwaith trawsgludo eiddo preswyl a masnachoI. Mae ein cwmni wedi'i achredu i Gynllun Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y Gyfraith ac mae ar y panel ar gyfer y rhan fwyaf o fanciau/cymdeithasau adeiladu.
Rydym yn delio'n rheolaidd â gwerthiannau â phryniannau Rhydd-ddaliad/Prydlesol; gan gynnwys ail-forgeisio. Rydym hefyd yn gweithredu ar ran prynwyr eiddo newydd o dan Gynllun Cymorth i Brynu Cymru.
Bydd ein Cyfreithwyr yn gallu helpu i hawlio unrhyw fonws ISA Cymorth i Brynu perthnasol neu ISA Gydol Oes.
Mae gennym brofiad o drafodion sy'n ymwneud â Chymdeithasau Tai, busnesau a datblygiadau preswyl. Gallwn baratoi pecynnau ocsiwn cyfreithiol ar gyfer arwerthiannau eiddo a gallwn gynghori ar amrywiol faterion eiddo gan gynnwys rhyddfreintiau, prydlesi, hawliau tramwy, ac ati.