Lifetime Lawyers
Cartref > Newyddion > Lifetime Lawyers
Mae Indeg Wyn o Pritchard Jones Lane LLP wedi derbyn cydnabyddiaeth cenedlaethol am ei harbenigedd mewn cefnogaeth cyfreithiol i gleientiaid hŷn a bregus, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
Dyfernir yr achrediad gan ‘the Association of Lifetime Lawyers’, y sefydliad sy’n gosod y safon ar gyfer cyngor cyfreithiol o’r ansawdd uchaf mewn meysydd arbenigol, megis ewyllysiau, pwer atwrnai a threth etifeddiaeth.
Er mwyn ennill achrediad, mae’n rhaid i gyfreithwyr gwblhau asesiad i ddangos dealltwriaeth gadarn o’r anghenion a’r ystyriaethau penodol sy’n ofynnol wrth ddiogelu a gwarchod buddiannau cleientiaid.
Am fwy o wybodaeth am y ffyrdd y gall Indeg eich helpu, cysylltwch â ni ar 01286 671167 neu e-bostiwch post@pritchardjones.co.uk