Gyrfaoedd
Cartref > Gyrfaoedd
Teitl Swydd: Ysgrifennydd Cyfreithiol (Llawn Amser)
Lleoliad: Caernarfon
Cyflog: o £23,123.20 yn ddibynnol ar brofiad gyda cyfleoedd i ddatblygu gyrfa
Oriau: Llawn Amser (Llun-Gwener 9:00am – 5:00pm)
Am y Rôl:
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a phroffesiynol i ymuno â'n tîm cyfeillgar a chefnogol. Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn sydd am ddatblygu eu gyrfa yn y sector gyfreithiol. Byddai’r unigolyn yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi ein cyfreithwyr gydag amrywiaeth o dasgau gweinyddol a thasgau gofal cleient. Mae’r gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Cyfrifoldebau:
- Cynorthwyo ein cyfreithwyr gyda'u llwyth gwaith o ddydd i ddydd.
- Ateb galwadau ffôn a thrin ymholiadau mewn modd proffesiynol.
- Rheoli ymholiadau Cleientiaid a darparu gwasanaeth gofal cleient rhagorol.
- Clywdeipio a pharatoi dogfennau.
- Cefnogaeth weinyddol gyffredinol yn ôl yr angen.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
- Sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf.
- Agwedd ragweithiol a chadarnhaol at waith.
- Y gallu i weithio'n effeithlon ac yn gywir.
- Mae profiad mewn rôl debyg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Hyfforddiant a Datblygiad:
Darperir hyfforddiant llawn ar yr holl systemau a gweithdrefnau, gan wneud hon yn rôl ddelfrydol i unrhyw un sydd eisiau ennill profiad yn y maes cyfreithiol.
Yr hyn rydym yn ei gynnig:
- Cyflog cystadleuol.
- Awyrgylch tîm cefnogol a chydweithredol.
- Cyfleoedd i ddatblygu gyrfa.
I wneud cais, cyflwynwch eich CV a llythyr eglurhaol byr yn amlinellu eich diddordeb yn y rôl i Owain.roberts@pritchardjones.co.uk