Trawsgludo Eiddo Preswyl
Cartref > Ffioedd > Trawsgludo Eiddo Preswyl
Prynu Rhydd-ddaliad
Mae ein ffioedd yn cwmpasu'r holl waith sydd ei angen i gwblhau prynu eich cartref newydd, gan gynnwys delio â chofrestru yn y Gofrestrfa Dir a delio â thalu'r Dreth Drafodiadau Tir (os yw'r eiddo rydych chi'n ei brynu yng Nghymru) neu Treth Dir y Dreth Stamp (os yw'r eiddo yn Lloegr).
Mae ein ffioedd yn seiliedig ar y pris prynu ar gyfer yr eiddo fel a ganlyn:
Pris Prynu (£) 0-100,000.00
Ffioedd (£) 695
Pris Prynu (£) 100,001.00-200,000.00
Ffioedd (£) 795
Pris Prynu (£) 200,001.00-300,000.00
Ffioedd (£) 895
Pris Prynu (£) 300,001.00-400,000.00
Ffioedd (£) 995
Pris Prynu (£) 400,001.00-500,000.00
Ffioedd (£) 1245
Pris Prynu (£) 500,001.00 +
Ffioedd (£) Cysylltwch â ni i drafod
Mae TAW ac unrhyw allandaliadau yn ychwanegol at y ffioedd uchod. Rydym hefyd yn codi ffi o £37.50 ynghyd â TAW am bob taliad Trosglwyddo Telegraffig a wneir ar eich rhan.
Rydyn ni hefyd yn codi ffioedd atodol am y canlynol: -
• Tâl atodol am eiddo newydd - £200.00 ynghyd â TAW.
• Tâl atodol os yw'r trafodiad yn cynnwys ISA Cymorth i Brynu Bonws/Bonws Oes - £50.00 ynghyd â TAW fesul bonws.
• Tâl atodol os yw'r trafodiad yn cynnwys ecwiti a rennir/ail dâl - £100 ynghyd â TAW.
Mae allandaliadau yn gostau sy'n gysylltiedig â'ch mater sy'n daladwy i drydydd parti, fel ffioedd y Gofrestrfa Dir. Rydym yn delio â thalu'r taliadau ar eich rhan i sicrhau proses rwyddach.
Mae'r taliadau yr ydym yn rhagweld y gallent fod yn berthnasol i'ch pryniant fel a ganlyn: -
Ffi morgais (os yw'n berthnasol)
£15-£30 (yn dibynnu ar y gymdeithas adeiladau neu fanc)
Ffi y Gofrestrfa Dir
Mae hyn yn dibynnu ar bris prynu eich eiddo ac a yw'r eiddo eisoes wedi'i gofrestru ai peidio. Gallwch gyfrifo'r swm y bydd angen i chi ei dalu drwy ddefnyddio gwefan y Gofrestrfa Dir - Cyfrifiannell Ffioedd
Treth Trafodiadau Tir/Treth Dir y Dreth Stamp
Mae hyn yn dibynnu ar bris prynu eich eiddo. Gallwch gyfrifo'r swm y bydd angen i chi ei dalu drwy ddefnyddio gwefan Awdurdod Cyllid
Cymru (os yw'r eiddo wedi'i leoli yng Nghymru) neu wefan Cyllid a Thollau (os yw'r eiddo wedi'i leoli yn Lloegr).
Cyfrifo Treth Trafodiadau Tir - LLYW.CYMRU
Treth Dir y Dreth Stamp: Cyfraddau eiddo preswyl - GOV.UK
Chwiliad Awdurdod Lleol
£58.42 i £347.90 (yn ddibynnol ar ardal)
Chwiliad Dŵr a Dreaenio
£22.80-£62.52 (yn ddibynnol ar ardal)
Chwiliad Mwyngloddio (os oes angen)
£46.00
Chwiliad Amgylcheddol (os oes angen)
£76.43-£122.47 (yn ddibynnol ar ardal)
Chwiliad Gwirio y Cyngor (os oes angen)
£18.61
Chwiliad Swyddogol yn y Gofrestrfa Dir
£3.00 y teitl
Chwiliad methdaliad
£2.00 y person
Faint o amser gymer hi i brynu tŷ
Bydd faint o amser y bydd yn ei gymryd o'ch cynnig yn cael ei dderbyn hyd nes y gallwch symud i mewn i'ch tŷ yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Mae'r broses yn cymryd rhwng 8-12 wythnos fel arfer.
Gall fod yn gyflymach neu'n arafach, yn dibynnu ar y partïon yn y gadwyn, unrhyw oedi wrth dderbyn canlyniadau o'r fath, neu eich adroddiad arolwg ac ati. Er enghraifft, os ydych yn prynu eiddo prydlesol lle mae angen ymestyn y brydles, gallai gymryd llawer mwy o amser, er enghraifft rhwng 12-20 wythnos. Mewn sefyllfa o'r fath, byddem yn eich hysbysu o unrhyw oedi ac unrhyw daliadau ychwanegol a fyddai'n berthnasol.
Camau o'r broses
Mae'r union gamau sy'n gysylltiedig â phrynu eiddo preswyl yn amrywio yn ôl yr amgylchiadau. Fodd bynnag, isod, rydym wedi awgrymu rhai camau allweddol a allai fod yn berthnasol: -
- Cymryd eich cyfarwyddiadau a rhoi cyngor cychwynnol i chi.
- Sicrhau fod cyllid yn ei le er mwyn prynu, a chysylltu a chyfreithwyr y benthyciwr os oes angen.
- Derbyn a chynghori ar ddogfennau cytundeb.
- Cael dogfennau cynllunio pellach os oes angen.
- Gwneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol i gyfreithiwr y gwerthwr.
- Rhoi cyngor i chi ar yr holl ddogfennau a gwybodaeth a dderbynnir.
- Mynd drwy amodau'r cynnig morgais gyda chi.
- Anfon cytundeb terfynol atoch i'w lofnodi.
- Cytuno ar ddyddiad cwblhau (y dyddiad y byddwch yn dod yn berchen ar yr eiddo).
- Cyfnewid cytundebau a rhoi gwybod i chi fod hyn wedi digwydd.
- Trefnu bod pob arian yn cael ei dderbyn gan y benthyciwr a chi.
- Cwblhau'r pryniant.
- Delio â thalu Treth Trafodiadau Tir/Treth Dir y Dreth Stamp.
- Delio â chais i gofrestru yn y Gofrestrfa Dir.
Mae ein ffioedd yn rhagdybio -
i) Y byddai hwn yn drafodiad safonol ac na fyddai unrhyw faterion annisgwyl yn codi, gan gynnwys, er enghraifft, ddiffyg teitl. Byddai hynny'n gofyn am gywiro cyn cwblhau neu ddarparu dogfennau ychwanegol ategol i'r prif drafodiad.
ii) Y byddai'r trafodiad yn cael ei gwblhau mewn amser rhesymol ac na fyddai unrhyw gymhlethdodau annisgwyl yn codi.
iii) Y byddai pob parti i'r trafodiad yn gydweithredol ac na fyddai unrhyw oedi afresymol gan drydydd parti sy'n darparu dogfennau.
iv) Na fyddai angen polisi indemniad. Gall taliadau ychwanegol fod yn berthnasol os oes angen polisi o'r fath.
Gwerthu Rhydd-ddaliad
Mae ein ffioedd yn cwmpasu'r yr holl waith sydd ei angen i gwblhau gwerthu eich eiddo. Mae ein ffioedd yn seiliedig ar y pris gwerthu ar gyfer yr eiddo fel a ganlyn:
Pris Prynu (£) 0-100,000.00
Ffioedd (£) 695
Pris Prynu (£) 100,001.00-200,000.00
Ffioedd (£) 795
Pris Prynu (£) 200,001.00-300,000.00
Ffioedd (£) 895
Pris Prynu (£) 300,001.00-400,000.00
Ffioedd (£) 995
Pris Prynu (£) 400,001.00-500,000.00
Ffioedd (£) 1245
Pris Prynu (£) 500,001.00 +
Ffioedd (£) Cysylltwch â ni i drafod
Mae TAW ac unrhyw allandaliadau yn ychwanegol at y ffioedd uchod. Rydym hefyd yn codi ffi o £37.50 ynghyd â TAW am bob taliad Trosglwyddo Telegraffig a wneir ar eich rhan.
Mae allandaliadau yn gostau sy'n gysylltiedig â'ch mater sy'n daladwy i drydydd parti, fel ffioedd y Gofrestrfa Dir. Rydym yn delio â thalu'r taliadau ar eich rhan i sicrhau proses rwyddach.
Mae'r taliadau yr ydym yn rhagweld y gallent fod yn berthnasol i werthu eich eiddo prydlesol fel a ganlyn:
Ffioedd y Gofrestrfa Dir
£6.00 ar gyfer Cofnodion a Chynllun Copi Swyddfa, £3.00 ar gyfer pob dogfen Gofrestrfa Dir swyddogol ychwanegol.
Mae ein ffioedd yn rhagdybio -
i) Y byddai hwn yn drafodiad safonol ac na fyddai unrhyw faterion annisgwyl yn codi, gan gynnwys, er enghraifft, ddiffyg teitl. Byddai hynny'n gofyn am gywiro cyn cwblhau neu ddarparu dogfennau ychwanegol ategol i'r prif drafodiad.
ii) Y byddai'r trafodiad yn cael ei gwblhau mewn amser rhesymol ac na fyddai unrhyw gymhlethdodau annisgwyl yn codi.
iii) Y byddai pob parti i'r trafodiad yn gydweithredol ac na fyddai unrhyw oedi afresymol gan drydydd parti sy'n darparu dogfennau.
iv) Na fyddai angen polisi indemniad. Gall taliadau ychwanegol fod yn berthnasol os oes angen polisi o'r fath.
Prynu Eiddo Prydlesol
Prynu Eiddo Preswyl Prydlesol
Mae ein ffioedd yn cwmpasu'r holl waith sydd ei angen i gwblhau prynu eich cartref newydd, gan gynnwys delio â chofrestru yn y Gofrestrfa Dir a delio â'r Dreth Trafodiadau Tir (os yw'r eiddo yng Nghymru) neu Treth Dir y Dreth Stamp (os yw'r eiddo yn Lloegr). Mae ein ffioedd yn seiliedig ar y pris prynu ar gyfer yr eiddo fel a ganlyn: -
Pris Prynu (£) 0-100,000.00
Ffioedd (£) 895
Pris Prynu (£) 100,001.00-200,000.00
Ffioedd (£) 995
Pris Prynu (£) 200,001.00-300,000.00
Ffioedd (£) 1095
Pris Prynu (£) 300,001.00-400,000.00
Ffioedd (£) 1295
Pris Prynu (£) 400,001.00-500,000.00
Ffioedd (£) 1445
Pris Prynu (£) 500,001.00 +
Ffioedd (£) Cysylltwch â ni i drafod.
Mae TAW ac unrhyw allandaliadau yn ychwanegol at y ffioedd uchod. Rydym hefyd yn codi ffi o £37.50 ynghyd â TAW am bob taliad Trosglwyddo Telegraffig a wneir ar eich rhan.
Mae allandaliadau yn gostau sy'n gysylltiedig â'ch mater sy'n daladwy i drydydd parti, fel ffioedd archwilio. Rydym yn delio â thalu'r taliadau ar eich rhan i sicrhau proses rwyddach. Mae rhai taliadau a fydd yn cael eu nodi yn y brydles unigol sy'n ymwneud â'r eiddo. Bydd y taliadau yr ydym yn rhagweld yn berthnasol fel y nodir ar wahân isod. Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol a gall taliadau eraill fod yn berthnasol yn dibynnu ar dymor y brydles. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y ffioedd penodol ar ôl derbyn ac archwilio'r brydles gan gyfreithiwr y gwerthwr.
Ffi morgais (os yw'n berthnasol)
£15-£30 (yn dibynnu ar y gymdeithas adeiladau neu fanc)
Ffi y Gofrestrfa Dir
Mae hyn yn dibynnu ar bris prynu eich eiddo ac a yw'r eiddo eisoes wedi'i gofrestru ai peidio. Gallwch gyfrifo'r swm y bydd angen i chi ei dalu drwy ddefnyddio gwefan y Gofrestrfa Dir - Cyfrifiannell Ffioedd
Treth Trafodiadau Tir/Treth Dir y Dreth Stamp
Mae hyn yn dibynnu ar bris prynu eich eiddo. Gallwch gyfrifo'r swm y bydd angen i chi ei dalu drwy ddefnyddio gwefan Awdurdod Cyllid
Cymru (os yw'r eiddo yng Nghymru) neu wefan Cyllid a Thollau (os yw'r eiddo yn Lloegr)
Cyfrifo Treth Trafodiadau Tir -LLYW.CYMRU
Treth Dir y Dreth Stamp: Cyfraddau eiddo preswyl - GOV.UK
Chwiliad Awdurdod Lleol
£58.42 i £347.90 (yn ddibynnol ar ardal)
Chwiliad Dŵr a Dreaenio
£22.80-£62.52 (yn ddibynnol ar ardal)
Chwiliad Mwyngloddio (os oes angen)
£46.00
Chwiliad Amgylcheddol (os oes angen)
£76.43-£122.47 (yn ddibynnol ar ardal)
Chwiliad Gwirio y Cyngor (os oes angen)
£18.61
Chwiliad Swyddogol yn y Gofrestrfa Dir
£3.00 y teitl
Chwiliad methdaliad
£2.00 y person
Hysbysiad o Ffi Drosglwyddo
Byddai'r ffi hon, pe'i codid, yn cael ei nodi yn y brydles.
Hysbysiad o Ffi Pridiant (os yw'r eiddo i gael ei gofrestru)
Byddai'r ffi hon wedi'i nodi yn y brydles.
Ffi Gweithred Cyfamod
Darperir y ffi hon gan y Cwmni Rheoli ar gyfer yr eiddo a gall fod yn anodd i'w hamcangyfrif.
Ffi Tystysgrif Cydymffurfio
I'w chadarnhau ar ôl derbyn y brydles.
Mae'r ffioedd hyn yn amrywio o eiddo i eiddo a gallant fod yn fwy na'r amcanion a roddir uchod. Gallwn roi ffigur cywir i chi ar ôl i ni weld eich dogfen benodol.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol bod Rhent Daear a Thâl Gwasanaethau yn debygol o fod yn berthnasol i chi drwy fod yn berchen ar yr eiddo. Byddwn yn cadarnhau'r Rhent Daear a'r Tâl Gwasanaethau cyn gynted ag y byddwn wedi cael y wybodaeth.
Pecyn Rheoli gan y Landlord / Cwmni Rheoli
Mae'n arferol y bydd ffi i'w thalu i'r Landlord / Cwmni Rheoli i baratoi pecyn rheoli y bydd angen ei gyflwyno i gyfreithwyr y prynwyr. Nid yw ffioedd o'r fath yn hysbys i ni nes y byddwn wedi cael gwybod am y costau gan y Landlord/Cwmni Rheoli. Gall y ffioedd hyn amrywio o eiddo i eiddo ond gallwn roi ffigur cywir i chi ar ôl i ni weld eich dogfennau penodol.
Faint o amser gymer hi i brynu tŷ
Bydd faint o amser y bydd yn ei gymryd o'ch cynnig yn cael ei dderbyn hyd nes y gallwch symud i mewn i'ch tŷ yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Mae'r broses yn cymryd rhwng 8-12 wythnos fel arfer.
Gall fod yn gyflymach neu'n arafach, yn dibynnu ar y partïon yn y gadwyn, unrhyw oedi wrth dderbyn canlyniadau o'r fath, neu eich adroddiad arolwg ac ati. Er enghraifft, os ydych yn prynu eiddo prydlesol lle mae angen ymestyn y brydles, gallai gymryd llawer mwy o amser, er enghraifft rhwng 12-20 wythnos. Mewn sefyllfa o'r fath, byddem yn eich hysbysu o unrhyw oedi ac unrhyw daliadau ychwanegol a fyddai'n berthnasol.
Camau o'r broses
Mae'r union gamau sy'n gysylltiedig â phrynu eiddo preswyl yn amrywio yn ôl yr amgylchiadau. Fodd bynnag, isod, rydym wedi awgrymu rhai camau allweddol a allai fod yn berthnasol: -
- Cymryd eich cyfarwyddiadau a rhoi cyngor cychwynnol i chi.
- Sicrhau fod cyllid yn ei le er mwyn prynu, a chysylltu a chyfreithwyr y benthyciwr os oes angen.
- Derbyn a chynghori ar ddogfennau cytundeb.
- Cael dogfennau cynllunio pellach os oes angen.
- Gwneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol i gyfreithiwr y gwerthwr.
- Rhoi cyngor i chi ar yr holl ddogfennau a gwybodaeth a dderbynnir.
- Mynd drwy amodau’r cynnig morgais gyda chi.
- Anfon cytundeb terfynol atoch i'w lofnodi
- Trosglwyddiad drafft.
- Eich cynghori ar gyd-berchnogaeth.
- Cael chwiliadau cyn cwblhau.
- Cytuno ar ddyddiad cwblhau (y dyddiad y byddwch yn dod yn berchen ar yr eiddo).
- Cyfnewid cytundebau a rhoi gwybod i chi fod hyn wedi digwydd.
- Trefnu bod pob arian yn cael ei dderbyn gan y benthyciwr a chi.
- Cwblhau'r pryniant.
- Delio â thalu Treth Trafodiadau Tir/Treth Dir y Dreth Stamp.
- Delio â chais i gofrestru yn y Gofrestrfa Dir.
Mae ein ffioedd yn rhagdybio -
i) Y byddai hwn yn drafodiad safonol ac na fyddai unrhyw faterion annisgwyl yn codi, gan gynnwys, er enghraifft, ddiffyg teitl. Byddai hynny'n gofyn am gywiro cyn cwblhau neu ddarparu dogfennau ychwanegol ategol i'r prif drafodiad.
ii) Bod hyn yn aseinio prydles sy'n bodoli eisoes ac nid yw’n creu prydles newydd.
iii) Y byddai'r trafodiad yn cael ei gwblhau mewn amser rhesymol ac na fyddai unrhyw gymhlethdodau annisgwyl yn codi.
iv) Y byddai pob parti i'r trafodiad yn gydweithredol ac na fyddai unrhyw oedi afresymol gan drydydd parti sy'n darparu dogfennau.
v) Na fyddai angen polisi indemniad. Gall taliadau ychwanegol fod yn berthnasol os oes angen polisi o'r fath.
Gwerthu Prydles
Mae ein ffioedd yn cwmpasu yr holl waith sydd ei angen i gwblhau gwerthu eich eiddo prydles. Mae ein ffioedd yn seiliedig ar y pris gwerthu ar gyfer yr eiddo fel a ganlyn:
Pris Prynu (£) 0-100,000.00
Ffioedd (£) 895
Pris Prynu (£) 100,001.00-200,000.00
Ffioedd (£) 995
Pris Prynu (£) 200,001.00-300,000.00
Ffioedd (£) 1095
Pris Prynu (£) 300,001.00-400,000.00
Ffioedd (£) 1295
Pris Prynu (£) 400,001.00-500,000.00
Ffioedd (£) 1445
Pris Prynu (£) 500,001.00 +
Ffioedd (£) Cysylltwch â ni i drafod
Mae TAW ac unrhyw allandaliadau yn ychwanegol at y ffioedd uchod. Rydym hefyd yn codi ffi o £37.50 ynghyd â TAW am bob taliad Trosglwyddo Telegraffig a wneir ar eich rhan.
Mae allandaliadau yn gostau sy'n gysylltiedig â'ch mater sy'n daladwy i drydydd parti, fel ffioedd y Gofrestrfa Dir. Rydym yn delio â thalu'r taliadau ar eich rhan i sicrhau proses rwyddach.
Mae'r taliadau yr ydym yn rhagweld y gallent fod yn berthnasol wrth werthu eich eiddo prydlesol fel a ganlyn:
Ffioedd y Gofrestrfa Dir
£6.00 ar gyfer Cofnodion a Chynllun Copi Swyddfa, £3.00 ar gyfer pob dogfen Gofrestrfa Dir swyddogol ychwanegol.
Pecyn Rheoli gan y Landlord / Cwmni Rheoli
Mae'n arferol y bydd ffi i'w thalu i'r Landlord / Cwmni Rheoli i baratoi pecyn rheoli y bydd angen ei gyflwyno i gyfreithwyr y prynwyr. Nid yw ffioedd o'r fath yn hysbys i ni nes y byddwn wedi cael gwybod am y costau gan y Landlord / Cwmni Rheoli. Gall y ffioedd hyn amrywio o eiddo i eiddo ond gallwn roi ffigur cywir i chi ar ôl i ni weld eich dogfennau penodol.