Adennill Dyledion
Cartref > Ffioedd > Adennill Dyledion
Rydym yn codi'r cyfraddau canlynol yr awr am ddelio â hawliadau llys am adennill dyledion
Yn seiliedig ar gyfradd pro-rata yr awr (cyfradd fesul awr yn seiliedig ar ffigurau cyfarwyddyd a gyhoeddwyd ar wefan Gov UK)
Cyfreithiwr Partner - £255.00 ynghyd â TAW
Tâl ychwanegol am bob llythyr/e-bost a anfonir a galwad ffôn - £25.00
Cyfreithiwr Cyswllt - £177.00 ynghyd â TAW
Tâl ychwanegol am bob llythyr/e-bost a anfonir a galwad ffôn - £17.00
Cyfreithiwr dan hyfforddiant/Paragyfreithwr - £126.00 yn ogystal â TAW
Tâl Ychwanegol am bob llythyr/e-bost a anfonir a galwad ffôn - £12.00
Mae allandaliadau yn gostau sy'n gysylltiedig â'ch mater sy'n daladwy i drydydd parti. Rydym yn delio â thalu'r taliadau ar eich rhan i sicrhau proses rwyddach. Y taliadau arferol i'w disgwyl yw ffioedd llys a ffioedd arbenigol. Mae manylion ffioedd llys ar gael ar wefan y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd:-
https://www.gov.uk/government/publications/fees-in-the-civil-and-family-courts-main-fees-ex50
Gall costau'r arbenigwr perthnasol amrywio yn dibynnu ar natur y mater.
Wrth ddelio â materion o'r fath, byddwn yn:
• Cymryd eich cyfarwyddiadau ac adolygu eich dogfennau;
• Ymgymryd â chwiliadau priodol;
• Anfon llythyr cyn gweithredu;
• Derbyn taliad a'i anfon ymlaen atoch, neu os na thelir y ddyled, yna drafftio a chyhoeddi hawliad;
• Pan na cheir Cydnabyddiad Cyflwyno neu amddiffyniad, gwneud cais i'r llys am Ddyfarniad oherwydd Diffyg;
• Cysylltu â'r ochr arall i ofyn am daliad os gwneir Dyfarniad oherwydd Diffyg;
• Pe na bai taliad yn cyrraedd, nodi'r camau nesaf i'w cymryd ac amlinellu'r costau tebygol i chi.
Mae materion o'r fath fel arfer yn cymryd 12-16 wythnos o dderbyn cyfarwyddiadau gennych chi i dderbyn taliad gan yr ochr arall, yn dibynnu a oes angen cyflwyno hawliad ai peidio. Mae hyn ar y sail bod yr ochr arall yn talu'n brydlon, ar ôl derbyn Dyfarniad oherwydd Diffyg. Os bydd angen cymryd camau gorfodi, bydd y mater yn cymryd mwy o amser i'w ddatrys.