Profiant/Gweinyddu Ystâd
Cartref > Ffioedd > Profiant/Gweinyddu Ystâd
Gallwn eich helpu drwy'r broses anodd hon drwy gael y ddogfen Grant Profiant ar eich rhan. Byddwn hefyd yn ymgymryd â chasglu a dosbarthu asedau.
Rydym yn codi ffi sefydlog o 1.5% o werth gros yr ystâd at ddibenion treth etifeddu, yn ogystal â TAW a allandaliadau (yn amodol ar isafswm ffi o £2,650 ynghyd â TAW a thaliadau eraill).
Mae hyn yn cynnwys cael y grant, casglu asedau a'u dosbarthu.
Mae allandaliadau yn gostau sy'n gysylltiedig â'ch mater sy'n daladwy i drydydd parti, fel ffioedd llys.
Rydym yn delio â thalu'r taliadau ar eich rhan i sicrhau proses rwyddach.
Mae'r taliadau sy'n arferol wrth weinyddu ystadau yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig) i'r canlynol:
Ffi Profiant
£273.00
Tyngu llw parthed unrhyw affadafid sydd eu hangen mewn cyswllt â'r cais
£5.00 yr ysgutor ynghyd â £2.00 am bob atodiad
Chwiliad Pridiannau Tir Methdaliad yn unig
£2.00 y buddiolwr
Hysbysiad Deddf Ymddiriedolwyr yn y London Gazette a phapurau newydd lleol
Rhwng £230 a £350. Mae hyn yn helpu rhag bod unrhyw gredydwyr anhysbys
Efallai y bydd costau gweinyddu eraill hefyd yn daladwy gan yr Ystâd, er enghraifft, ffioedd clirio eiddo, ffioedd gwerthwyr tai, ffioedd prisio/ffioedd arwerthwyr, ac ati.
Efallai y bydd treth etifeddu hefyd yn daladwy yn ogystal â threthi eraill, er enghraifft, treth enillion cyfalaf.
Fel rhan o'n costau, byddwn yn:
• Rhoi cyfreithiwr profiant profiadol i weithio gyda chi ar eich mater;
• Nodi'r ysgutorion neu'r gweinyddwyr a'r buddiolwyr a benodir yn gyfreithiol;
• Nodi'n gywir y math o gais profiant y bydd ei angen arnoch;
• Cael y dogfennau perthnasol sydd eu hangen i wneud y cais;
• Cwblhau'r y cais profiant a'r ffurflenni Cyllid a Thollau perthnasol;
• Drafftio'r datganiad cyfreithiol i chi ei lofnodi;
• Gwneud cais i'r Gofrestrfa Brofiant ar eich rhan;
• Cael y Profiant ac anfon dau gopi atoch yn ddiogel;
• Casglu a dosbarthu'r holl asedau yn y stâd.
Ar gyfartaledd, ymdrinnir ag y stadau o fewn tua blwyddyn. Fel arfer, mae cael y Grant Profiant yn cymryd 12-16 wythnos, yna gall casglu asedau gymryd rhwng 2 i 6 mis.
Unwaith y bydd hyn wedi'i wneud, gallwn ddosbarthu'r asedau. Gall yr amserlen fod yn hirach na hyn oherwydd ffactorau y tu hwnt i'n rheolaeth.
Profiant yn unig
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth lle byddwn yn gwneud cais am y dystysgrif Profiant ar eich rhan a fydd yn eich galluogi chi i fwrw ymlaen â gweddill gweinyddiaeth yr ystâd eich hun.
Rydym yn codi ffi sefydlog o £1,750.00 ynghyd â TAW a allandaliadau.
Bydd taliadau sy'n berthnasol i'r gwasanaeth hwn yn cynnwys y canlynol:
Ffi Profiant
£273.00
Tyngu llw parthed unrhyw affidafid sydd ei angen mewn cysylltiad â'r cais
£5.00 yr Ysgutor ynghyd â £2.00 am bob atodiad unigol.