Trip Beicio Elusennol
Cartref > Newyddion > Trip Beicio Elusennol
Ym mis Chwefror 2023, cymerodd Wyn Trefor Jones ran mewn digwyddiad elusennol yn codi arian ar gyfer clefyd motor niwron, a beicio o Gaeredin i Gaerdydd dros 48 awr a 555 milltir i gyflwyno'r bêl gêm ar gyfer y gic gyntaf mewn gêm rygbi rhwng Cymru a'r Alban.
Cododd y digwyddiad £14,668 i'r elusen My Name's Doddie (MND) Foundation.